Nod CSS Cymru yw darparu arweinyddiaeth strategol o’r radd flaenaf i wasanaethau sector cyhoeddus a harneisio gwybodaeth ac arbenigedd cyfunol pob aelod.
Mae CSS Cymru yn gymdeithas sy’n uno arbenigedd Llywodraeth Leol a gwybodaeth yr holl wasanaethau technegol a phroffesiynol a seilir ar ‘le’ o bob un o’r 22 Cyngor yng Nghymru. Mae meysydd allweddol arbenigedd yn cynnwys pob agwedd ar briffyrdd, trafnidiaeth a gwasanaethau gwastraff. Mae hyn yn cynnig cronfa wybodaeth o amryw filoedd o aelodau staff. Bydd CSS Cymru yn cynnal aelodaeth gynhwysol, gyfranogol ac ymatebol sy’n ymroi i hybu rhagoriaeth a rhannu gwybodaeth ym mhob maes. Mae CSS Cymru yn amhleidiol yn wleidyddol a bydd yn cynnig golwg proffesiynol gwrthrychol.
Bydd CSS Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddangos pwysigrwydd y gwasanaethau allweddol a seilir ar le i economi a ffyniant Cymru. Bydd hyn yn galluogi nodi’r lefelau priodol o fuddsoddiad a datblygu prosesau blaenoriaethu effeithiol.
Mae CSS Cymru yn gymdeithas sy’n edrych y tu hwn i ffiniau Cymru a bydd hyn yn parhau drwy feithrin cysylltiadau cryf ag; ADEPT (Cymdeithas Cyfarwyddwyr yr Amgylchedd, Economi, Cynllunio a Thrafnidiaeth), Cymdeithas y Prif Swyddogion Trafnidiaeth yn yr Alban (SCOTS), Grŵp Cydgysylltu’r Deyrnas Unedig ar Ffyrdd (UKRLG), cyrff proffesiynol perthnasol (ICE, IHT, IHIE ac ati), Cymdeithas Contractwyr Peiriannu Sifil (CECA), Chymdeithas y Peirianwyr Ymgynghorol (ACE) ac unrhyw gyrff eraill sy’n gallu ychwanegu gwerth at ddatblygiad gwybodaeth ac arbenigedd.