Gwella isadeiledd allweddol a strategol wrth hyrwyddo amgylchedd diogel, cryfach a chynaliadwy i Gymru

Mae CSS Cymru yn gweithio ledled Cymru i sicrhau bod prosiectau a mentrau llywodraeth leol yn gost-effeithiol, yn cael eu darparu’n effeithlon ac o safon uchel. Dyma rai enghreifftiau o’r gwaith rydym ni’n ei wneud.

Teitl

Canllaw Safonau Cyffredin

Mae’r Canllaw Safonau Cyffredin wedi’i gynhyrchu gan Awdurdodau Lleol Cymru a budd-ddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys Ffederasiynau Adeiladu Tai, i gynorthwyo ac i ddod â chysondeb er mwyn cwblhau cytundebau priffyrdd yn llwyddiannus a mabwysiadu ffyrdd sydd mewn datblygiadau newydd. Mae’r canllaw yn canolbwyntio’n bennaf ar safonau a manylion adeiladu.

Mae’n rhaid ystyried yr holl ddeddfwriaethau a chanllawiau cyfredol a pherthnasol a chydymffurfio’n briodol â nhw yn y broses ddylunio a chynllunio. Nod y ddogfen yw gosod Safonau Cyffredin yn unol â’r holl ddeddfwriaethau a chanllawiau cysylltiol, ond mae’n waith ar y gweill. Mae’r safonau cyffredin yn ddogfen fyw ac o dan adolygiad i alinio'n llawn gyda chanllawiau cyfredol, newydd ac sy'n dod i'r amlwg. Yn ystod y cyfnod adolygu, dylid dehongli'r canllawiau ochr yn ochr â:

Yn benodol, cyhoeddwyd fersiwn bresennol y canllaw cyn Polisi Cynllunio Cymru – Rhifyn 11 a Llwybr Newydd

Gan fod y canllaw dan adolygiad, dylid cyfeirio yn ôl i’r wefan yn rheolaidd i wirio am unrhyw ddiwygiadau.

Adfywio canol y ddinas

Gwella cysylltiadau trafnidiaeth i annog cerdded a seiclo, helpu i hybu busnesau lleol a denu mwy o fuddsoddiad.

Ad-drefnu pont

Ailddatblygiad llwybr trefol i wella porth mynedfa allweddol i’r ddinas.

Datblygiad parcio a theithio

Cyfleusterau parcio a theithio gyda llwybrau carlam pwrpasol i wella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, tagfeydd traffig a lefelau llygredd yn yr ardal leol.