Cadeirydd: Jason Jenkins (Pen-y-Bont ar Ogwr)
E-bost: Jason Jenkins
Ffôn: 01656 642814
Mae’r Is-grŵp Peiriannu yn cwmpasu uwch reolwyr dros gynnal a chadw’r rhwydwaith priffyrdd ledled Cymru. Mae’r grŵp yn rhoi cymorth strategol i’r is-grwpiau canlynol:
Yr Is-grŵp Peiriannu sy’n cyd-drefnu’r is-grwpiau ac yn hysbysu prif bwyllgor CSS am unrhyw faterion sy’n effeithio ar awdurdodau lleol ledled Cymru. Yn ogystal, mae’r grŵp yn rhoi cyngor ac arweiniad i aelodau ar faterion cynnal priffyrdd ac yn fforwm am rannu arfer da.
Cadeirydd: Tim Peppin (CLiLC)
E-bost: Tim Peppin
Ffôn: 02920 468669
Is-gadeirydd: Jane Lee (CLiLC)
E-bost: Jane Lee
Ffôn: 02920 468515
Mae Is-grŵp yr Amgylchedd yn cynnal cyfarfodydd cyfnodol sy’n cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) a chyfarwyddwyr yr Amgylchedd o bob rhan o Gymru. Nod y cyfarfodydd hyn yw galluogi rhannu hysbysrwydd. Maent yn cynnig seinfwrdd i WLGA ar faterion polisi, gan helpu i lywio safbwynt y WLGA. Mae’r cyfarfodydd yn trafod amrediad o faterion ym mhortffolios y cyfarwyddwyr, gan gynnwys trafnidiaeth, cynllunio, llifogydd a dŵr, gwastraff a bioamrywiaeth. Mae materion allweddol sy’n codi yng nghyfarfodydd grŵp y cyfarwyddwyr yn cael eu hadrodd yn ôl i brif grŵp CSS.
Cadeirydd – Paul Keeble (Sir Fynwy)
E-bost: Paul Keeble
Ffôn – 01633 644733
Mae’r Is-grŵp Traffig a Thrafnidiaeth yn gweithredu ar lefel strategol llywodraeth leol ledled Cymru gan rannu arfer da a helpu i ddatblygu polisïau ac arferion gweithio effeithiol yn genedlaethol ac ar lefel leol. Mae’r cyfarfodydd yn ymdrin ag amrediad eang o faterion rheoli traffig fel; diogelwch ar y ffordd, trafnidiaeth, gorfodi/ cyfyngiadau parcio a pharthau 20mya.
Cadeirydd: Tahir Saleem (Pen-y-Bont ar Ogwr)
E-bost: Tahir Saleem
Ffôn: 01656 642572
Is-gadeirydd: Bob Fenwick
E-bost: Bob Fenwick
Ffôn: N/A
Bwriad yr Is-grŵp Perfformiad yw cyflawni gwasanaeth meincnodi effeithiol i gynorthwyo gwella gwasanaethau ar lefel leol a chynnig darlun cenedlaethol o wasanaethau CSS allweddol. Mae’r grŵp yn ceisio ychwanegu gwerth a chynorthwyo gwella gwasanaethau trwy:
Cyd-gadeirydd: Nigel Brinn (Powys)
E-bost: Nigel Brinn
Ffôn: 01597 826659
Cyd-gadeirydd: Nigel Wheeler (Rhondda Cynon Taf)
E-bost: Nigel Wheeler
Ffôn: 01443 827720
Mae’r Is-grŵp Gwastraff yn gyfrifol am ddarparu rhwydwaith llywodraeth leol strategol a lefel uwch ar gyfer ailgylchu, rheoli gwastraff ac adnoddau. Gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Rhaglen Weithredu Gwastraff ac Adnoddau (WRAP), Cyfoeth Naturiol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r Is-grŵp Gwastraff yn gweithio i lywio strategaeth ailgylchu yn y dyfodol yn ogystal â darparu’r cyngor a’r her i wella arferion llywodraeth leol ar y lefel weithredol.
Cadeirydd: Jim Hall (Sir Ddinbych)
E-bost: Jim Hall
Ffôn: 01824 706745
V.Cadeirydd: Osian Richards (Gwynedd)
E-Bost: Osian Richards
Ffôn: 01286 679306
Ysgrifennydd: Bob Humphreys (Gwynedd)
E-bost: Bob Humphreys
Ffôn: 07920 540216
Mae’r Grŵp Pontydd yn grŵp cymheiriaid ar gyfer lledaenu gwybodaeth sy’n dod o Grŵp Peiriannu UK ADEPT a fforymau eraill i’r DU gyfan. Mae’r grŵp yn cynnal gwaith meincnodi rheolaidd ac yn rhannu arfer da i sicrhau ymagwedd Cymru-gyfan at reoli strwythurau priffyrdd ledled Cymru.
Cadeirydd dros dro: Chris Dale (Abertawe)
E-bost: Chris Dale
Ffôn: 01792 635750
Ysgrifennydd: Adrian Walls (Sir Ddinbych)
E-bost: Adrian Walls
Ffôn: 01824 706871
Mae’r Grŵp Hawliau Tramwy yn grŵp sy’n dod â thimau rheoli Hawliau Tramwy ynghyd o’r 22 awdurdod lleol, 3 pharc cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru a thimau polisi mynediad cefn gwlad Llywodraeth Cymru. Mae’r grŵp yn cynnwys rheolwyr o adrannau priffyrdd, cynllunio, yr amgylchedd, cefn gwlad a gwasanaethau cyfreithiol. Mae’n gweithio’n bennaf fel Is-grŵp rhanbarth Cymru ac yn adrodd yn ôl i Gymdeithas Cyfarwyddwyr yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth (ADEPT).
Cadeirydd: Mark Foweraker (Caerdydd)
E-bost: Mark Foweraker
Ffôn: 029 2078 8522
Ysgrifennydd: Richard Pimm (RoSPA)
E-bost: Richard Pimm
Ffôn: 02920 250 600
Mae’r Grŵp Gwasanaeth Traffig yn cynrychioli buddiannau aelodau ar lefel genedlaethol a rhanbarthol o ran materion traffig. Hefyd mae’n cynnig cymorth i Lywodraeth Cymru, yr Heddlu ac asiantaeth cefnffyrdd ar y materion hyn. Gwneir hyn drwy ddarparu fforwm am gyfnewid gwybodaeth ac arfer gorau mewn perthynas â’r materion dilynol:
Ysgrifennydd: Chloe Cadreman (Pen-y-Bont ar Ogwr)
E-bost: Chloe Cadreman
Ffôn: 01656 642575
Mae’r Clwb Meincnodi Gwasanaethau Peiriannu yn ceisio cyflawni gwasanaeth meincnodi effeithiol ar gyfer gwasanaethau ymgynghorol. Ei nod yw casglu a rhannu gwybodaeth am wasanaethau dylunio ymgynghorol mewnol ar gyfer cynlluniau a ddarperir ac yn cymharu’r gwasanaethau hyn â chynlluniau a ddarperir yn allanol. Mae’n ceisio ychwanegu gwerth drwy drafod sbectrwm eang o faterion a rhannu gwybodaeth er mwyn gwella gwasanaethau drwy rannu arfer da a dysgu oddi wrth ei gilydd.
Cadeirydd: Steve Daly (Conwy)
E-bost: Steve Daly
Ffôn: 01492 575426
Ysgrifennydd: Mike Young (SWTRA)
E-bost: Mike Young
Ffôn: 0300 123 1213
Mae’r Grŵp Cyd-awdurdodau (JAG) yn cynnig cymorth i bob awdurdod priffyrdd yng Nghymru o ran eu dyletswyddau statudol a bennir mewn deddfwriaeth gweithiau stryd, sy’n ymdrin yn bennaf â’r gwaith mae’r cwmnïau cyfleustodau yn ei wneud ar briffyrdd, ond hefyd â sicrhau bod unrhyw waith ar briffyrdd yn cael ei gofrestru a’i gyd-drefnu’n effeithiol. Mae CSS JAG Cymru yn gweithio’n agos gyda JAG UK, i sicrhau gweithredu deddfwriaeth mewn perthynas â Chymru a Lloegr yn effeithiol ac yn gyson, yn ogystal â’r angen i ddelio’n effeithiol â chwmnïau cyfleustodau cenedlaethol. Mae CSS JAG Cymru hefyd yn cynnal perthynas gryf â Llywodraeth Cymru ac wedi ymrwymo i’r egwyddorion a bennir yn y Dull Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ffordd a Gwaith Stryd Cymru, fel yr amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ac Isadeiledd ym Mehefin 2016.
Cadeirydd De Cymru: Paul Wheeldon (Torfaen)
E-bost: Paul Wheeldon
Ffôn: 01495 742430
Cadeirydd Gogledd Cymru: Evan Jones (Ynys Môn)
E-bost: Evan Jones
Ffôn: 01248 752364
Mae’r Grŵp Rheoli Datblygiad Priffyrdd yn cynnwys swyddogion rheoli datblygiad priffyrdd o awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru. Ni sy’n gyfrifol am gyd-drefnu a rhannu gwybodaeth am reoli datblygiad priffyrdd, gan gynnwys datblygu canllawiau dylunio a safonau ar gyfer parcio ceir. Mae’r fforwm yn cynghori Is-grŵp Traffig a Thrafnidiaeth CSS Cymru.
Cadeirydd: Hubert Mathias (Sir Benfro)
E-bost: Hubert Mathias
Ffôn: 01437 775220
Ysgrifennydd: Brendan Griffiths (Castell-nedd Port Talbot)
E-bost: Brendan Griffiths
Ffôn: 01639 686658
Mae’r Grŵp Trafnidiaeth wedi datblygu set o ddangosyddion dibynadwy ac ystyrlon i fesur perfformiad awdurdodau lleol ledled Cymru. Defnyddir y data perfformiad i feincnodi yn erbyn awdurdodau cymaradwy er mwyn sbarduno gwelliant. Mae’r grŵp yn cwmpasu trafnidiaeth gyhoeddus a thrafnidiaeth ysgol ac yn rhannu arfer da i sicrhau bod gwasanaethau trafnidiaeth ledled Cymru yn gost-effeithiol ac yn effeithlon.
Cadeirydd: Jonathan Hurley (Abertawe)
E-bost: Jonathan Hurley
Ffôn: 01792 841666
Ysgrifennydd: Tom Llewellyn (Caerffili)
E-bost: Tom Llewellyn
Ffôn: 01495 235785
Mae’r Grŵp Peirianwyr Goleuadau Stryd yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau, yn dda ac yn ddrwg, er budd eraill, gyda’r nod o wella ansawdd goleuadau stryd ledled Cymru. Deliwn â gwneuthurwyr, cyflenwyr goleuadau a chyflenwyr/dosbarthwyr trydan fel grŵp gan alluogi rhannu profiad a gwerth gwell am arian. Rhannwn brofiadau ac adnoddau er mwyn hyrwyddo amgylchedd gweithio mwy diogel i bawb gan gynnwys y cyhoedd.
Cadeirydd: Chris Adams (Caerffili)
Email: Chris Adams
Ffôn: 01495 235740
Mae’r Is-grŵp Rheoli Asedau a Pherfformiad yn goruchwylio’r Prosiect Rheoli Asedau sy’n mynd rhagddo a datblygiad systemau perfformiad a meincnodi priffyrdd. Ein gwaith pennaf yw datblygu a chynnal cyfres o offer a dogfennau safonol i gynorthwyo awdurdodau i ddatblygu a gweithredu strategaethau rheoli asedau ar sail data ac adrodd cyfrifon y llywodraeth gyfan. Hefyd gofynnwyd i ni ddatblygu ymagwedd genedlaethol at weithredu’r Cod Ymarfer newydd ar gyfer Priffyrdd. Mae’r grŵp yn trafod y rhan fwyaf o faterion sy’n ymwneud â chynnal priffyrdd a goleuadau stryd. Mae mesurau perfformiad yn cael eu hadolygu fel rhan o brosiect rheoli asedau Cymru gyfan.
Cadeirydd: Rhodri Llwyd (Ceredigion)
E-bost: Rhodri Llwyd
Ffôn: 01545 572434
Ysgrifennydd: Nia Williams (Ceredigion)
E-bost: Nia Williams
Mae Pwyllgor CSS Cymru yn cynnig arweinyddiaeth strategol a chyfeiriad ar swyddogaethau technegol a rhaglenni sy’n cael eu cynnal gan awdurdodau Cymru. Mae’r Pwyllgor yn hyrwyddo cysylltiadau gweithio agosach â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol eraill er mwyn rhagweld, nodi a lliniaru heriau posibl wrth ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae’r Pwyllgor yn hybu rhagoriaeth wrth reoli a darparu gwasanaethau drwy rannu gwybodaeth ac arfer da ymhlith ei aelodau. Mae’n cyflawni hyn drwy amrediad helaeth o arbenigedd technegol a ddatblygir gan ei glybiau meincnodi a thrwy rwydweithiau ehangach yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.